Comisiynwyd yr adroddiad hwn, a gynhyrchwyd gan IPC, gan Ofal Cymdeithasol Cymru ar ran y Fforwm Gwaith Teg ym maes Gofal Cymdeithasol. Mae’r Fforwm yn grŵp partneriaeth gymdeithasol sy’n cynnwys cyflogwyr, undebau llafur a rhanddeiliaid eraill sy’n anelu at wella trefniadau gwaith ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Mae’r adroddiad hwn yn archwilio strwythurau cyflog ar draws gweithlu gofal cymdeithasol Cymru a’u heffaith ar recriwtio a chadw staff. Gan adeiladu ar y fframwaith cyflog a dilyniant gyrfa a gyhoeddwyd gan y Fforwm Gwaith Teg, sy’n amlinellu bandiau swyddi (A–E) ar gyfer rolau gofal cymdeithasol plant ac oedolion, cynhaliodd IPC werthusiad dulliau cymysg a oedd yn cynnwys:
• adolygiad cyflym o’r dystiolaeth sydd ar gael;
• dadansoddiad o hysbysebion swyddi;
• arolwg o gyflogwyr; a
• grwpiau ffocws a chyfweliadau â chyflogwyr a gweithwyr gofal.
Mae’r canfyddiadau’n cyflwyno darlun cyson o sector sy’n wynebu pwysau hirdymor ar y gweithlu sy’n cael eu siapio’n gryf, ond nad ydynt yn cael eu hesbonio’n llwyr, gan gyflog isel.